Skip to main content

Canal & River Trust in Wales

Arosfa 16: Diogelu Adeiladweithiau

Mae adeiladweithiau hynod ddiddorol ar hyd y rhan o Gamlas Maldwyn sydd yng Nghymru gan gynnwys pontydd, lociau, bythynnod lociau a dyfrbontydd Efyrnwy, Aber-riw ac Aberbechan.

View this page in English

Roedd llawer o adeiladweithiau'r gamlas yn gofyn sgiliau pensaernïol a pheirianyddol sylweddol i'w codi ac yn dysteb fyw i'r gwaith rhyfeddol a wnaed wrth greu rhwydwaith y camlesi. Mae'n bwysig bod treftadaeth ddiwydiannol y dirwedd yma'n cael ei diogelu a'i chadw.

Yn gynyddol mae gwerth treftadaeth yn cael ei ddiogelu drwy ddynodi'r camlesi ac adeiladweithiau fel Henebion Rhestredig, Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth. Mae'r rhain yn amlygu'r angen am ofal a sylw mawr wrth eu cadw a'u hadfer, gan ddefnyddio technegau a deunyddiau traddodiadol.

Pontio'r bwlch

Dros amser, mae'r adeiladweithiau hyn wedi troi'n gynefinoedd unigryw i fywyd gwyllt sy'n hanfodol i oroesiad llawer o rywogaethau. Gwaith cerrig gwreiddiol yw bwâu llawer o'r pontydd ac yn aml yr hen adeiladweithiau mwy traddodiadol hyn sy'n cynnig y guddfan ddelfrydol i fywyd gwyllt. Yr ystlum lleiaf, yr ystlum mawr ac ystlum Daubenton yw'r ffawna mwyaf adnabyddus sy'n defnyddio ein pontydd gan glwydo mewn agennau a chraciau mân mân yn y gwaith cerrig a morter calch. Gall gwagleoedd mwy o faint gael eu defnyddio fel clwydfannau pwysicach ar gyfer gaeafgysgu a meithrin. Yn y nos byddant yn cymudo ar hyd coridor y gamlas gan fwydo ar yr holl bryfed sydd yno. Mae pob ystlum a'i glwydfan yn cael eu diogelu o dan y gyfraith. Maent yn ystyriaeth allweddol mewn unrhyw waith atgyweirio neu gynnal a chadw arfaethedig i'n hadeiladweithiau.

Beth sy'n gorwedd islaw?

Yn sefyll wrth ymyl y dŵr, mae'r adeiladweithiau hyn yn cynnal amrywiaeth o ffawna eraill gan gynnwys cimwch-yr-afon crafanc wen a ddiogelir o dan y gyfraith. Mae'r rhain yn llochesu yn yr agennau sydd dan y dŵr yn waliau cerrig y pontydd a'r lociau. Nodwedd arbennig arall y gamlas yma yw'r sbwng dŵr croyw prin sy'n glynu wrth lifddorau lociau a waliau pontydd er enghraifft. Ystyrir mai dangosyddion ansawdd dŵr da yw'r ddwy rywogaeth hon ac maent wedi'u cofnodi yn y rhan o'r gamlas sydd yng Nghymru lle nad oes modd llywio cychod ac sydd heb aflonyddu arni.

Weithiau, gall y rôl y mae'r adeiladweithiau hyn yn ei chwarae ym mioamrywiaeth amgylcheddau'r gamlas fod yn llai amlwg. Mae eiddew trwchus sy'n tyfu ar y pontydd yn cynnig rhywle diogel i adar nythu, gyda'r waliau cerrig ac agennau llaith yn darparu amgylchedd arbenigol lle gall mwsoglau, rhedyn, llysiau'r afu a chennau ffynnu. Credir hefyd mai'r rhywogaethau hynaf sy'n byw ar ein hadeiladweithiau yw'r cennau. Mae'n hollbwysig bod yr holl waith i gynnal ein hadeiladweithiau'n ceisio cadw eu gwerth i fywyd gwyllt.

Last Edited: 17 July 2015

photo of a location on the canals
newsletter logo

Stay connected

Sign up to our monthly newsletter and be the first to hear about campaigns, upcoming events and fundraising inspiration