We love and care for your canals and rivers, because everyone deserves a place to escape.

Arosfa 15: Lociau’r Belan

Y dyddiau hyn, lle tawel yw Lociau’r Belan i gael picnic a mwynhau’r olygfa dros afon Hafren. Yn y gorffennol, cymuned ddiwydiannol brysur oedd hon ac un o brif ganolfannau cynhyrchu calch yn yr ardal.

View this page in English

Islaw’r ardal bicnic saif wyth odyn galch, a adeiladwyd rhwng 1790 a 1840, amrywiol o ran eu siâp a’u maint; byddai’r rhain yn cael eu defnyddio i droi carreg galch yn galch amaethyddol. Mae odynau calch i’w gweld yr holl ford ar hyd y rhan o Gamlas Maldwyn sydd yng Nghymru gan gynnwys yr odyn Hoffman anferth yn Llanymynech.

Cerrig Poeth

Cyn i’r gamlas gael ei hadeiladu, bu’n rhaid codi odynau calch yn agos i’r chwareli calchfaen oherwydd ei bod yn ddrud iawn cludo cerrig trymion. Er yn rhatach, roedd yn beryglus cludo calch brwd (y cemegyn sy’n deillio o gynhesu calchfaen mewn odynau) oherwydd ei fod yn gawstig a phan fydd yn dod i gysylltiad â dŵr gall ei wres gynyddu’n gyflym. Cynigiai camlesi ddewis rhatach o lawer na chludo ar y ffyrdd ar gyfer symud calchfaen, felly gellid codi odynau yn agos i’r man lle’r oedd angen y calch, gan leihau’r angen am y gwaith peryglus o’i symud.  Drwy gludo calch ar y gamlas lleihawyd cost y calch o 18 hen geiniog i 13 hen geiniog y bwsiel. Yn fuan iawn bu calch yn gyfrifol am wella cynhyrchiant y tir amaeth oddi amgylch yn sylweddol.

Cartrefi i’r gweithwyr

Codwyd y rhesaid o fythynnod ar hyd y ffordd sy’n arwain at y safle picnic i weithwyr calch yng nghanol y 19eg, gan ddisodli bythynnod cynharach. Ceir hefyd fwthyn i geidwad y loc wrth ymyl y loc isaf a gafodd ei godi hefyd yn y 19eg ganrif i gymryd lle un gynt.

O gofnodion y cyfrifiad, gellir gweld bod teuluoedd yn byw yn y tai hyn am genedlaethau gan ddangos bod swyddi’n aml yn cael eu pasio i lawr o’r tad i’r mab. Mae cyfrifiad 1851 hefyd yn dangos bod dau gwch yn cael eu cadw yn y Belan. Ar un o’r cychod roedd gweddw a’i thri phlentyn yn byw.

Last date edited: 17 July 2015