We love and care for your canals and rivers, because everyone deserves a place to escape.

Arosfa 12: Castell ac Ystâd Powys

Draw dros y gamlas, gallwch weld tiroedd Castell Powys, sy’n bwysig i fywyd gwyllt gyda llawer o goed hynafol a chynefinoedd eraill. Mae’r gamlas yn cysylltu’r cynefinoedd hyn ag eraill o fewn ei choridor.

View this page in English

Adeiladwyd y castell yng nghanol y 13eg ganrif gan Owain ap Gruffudd ap Gwenwynwyn, tywysog olaf Powys. Mae Castell Powys yn enwog am ei erddi terasog a’i wrychoedd yw ysblennydd. Credir iddyn nhw gael eu cynllunio gan William Winde rhwng canol a diwedd y 17eg ganrif. Mae’n cael ei reoli gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol er 1952.

Douglas Fawr

Yr enw ar gynefin y parcdir sy’n goleddu i lawr at y gamlas yw ‘coed pori’; mae’n cael ei ddefnyddio at bori a chynhyrchu coed, gyda’r gamlas yn cael ei defnyddio yn y gorffennol i gludo’r coed. Dyma hefyd gynefin prin a gwerthfawr i amrywiaeth o fywyd gwyllt. Yn aml, mae coed hynafol i’w cael yn y cynefin hwn ac ynghynt yn y 20fed ganrif gallai Ystâd Powys frolio mai yma roedd y goeden fwyaf yng ngwledydd Prydain,  derwen oedd yn mesur 30’ 7” o’i hamgylch ac yn cynnwys 2000 troedfedd giwbig o goed, a’r goeden dalaf yng Nghymru a Lloegr - ffynidwydden Douglas 168 troedfedd. Mae’n debygol mai olion y coedwigoedd cynoesol yw rhai o’r coed presennol a fu unwaith yn gorchuddio rhannau helaeth o Gymru.

Mân-wybedyn newydd

Mae coed derw’n darparu cartref i 284 o wahanol rywogaethau infertebratau. Mae Ystâd Powys ymhlith y safleoedd gorau yng Nghymru ac yn un o’r rhai gorau yn y DU ar gyfer pryfed sy’n byw mewn coed marw ac sy’n pydru. Yn ystod arolwg a gynhaliwyd yn y 1990au cafwyd hyd i rywogaeth o fân-wybedyn oedd yn newydd i wyddoniaeth a dwy rywogaeth o chwilen oedd yn newydd i wledydd Prydain.

Edrych i’r awyr

Yn ogystal â phryfed, mae’r parc yn cynnig cynefinoedd pwysig i ystlumod. Ceir poblogaethau o’r ystlum pedol lleiaf, yr ystlum lleiaf cyffredin a soprano, yr ystlum hirglust, ystlum Natterer, ystlum Brandt, myotis, yr ystlum mawr ac ystlum y dŵr sy’n hoffi dal pryfed dros ddŵr ac a fydd yn hela dros y gamlas.

Yn yr awyr uwchben y parcdir, gellir gweld llawer o rywogaethau adar yn hedfan gan gynnwys y barcud coch, y boda a’r gigfran.

Last date edited: 17 July 2015