Skip to main content

Canal & River Trust in Wales

Arosfa 11 – Rhyfeddodau’r Dŵr

Cafwyd hyd i fywyd gwyllt prin yn y gamlas am y tro cyntaf yn ystod Oes Fictoria ac erbyn hyn mae rhan o’r gamlas yn Ardal Cadwraeth Arbennig sy’n cael ei chydnabod fel safle o bwysigrwydd Ewropeaidd.

View this page in English

Un o'r safleoedd bywyd gwyllt gorau yn Ewrop yw Camlas Maldwyn. Mae amrywiaeth anhygoel o fywyd gwyllt ganddi gan gynnwys mamaliaid, adar, pryfed a phlanhigion dŵr prin. Y rhan o'r gamlas rhwng y Trallwng a'r Drenewydd yw un o'r safleoedd gorau yn y byd i rai o'r planhigion hynny.

Nodwedd artiffisial

Nodwedd artiffisial yw'r gamlas ac felly mae'r holl fywyd gwyllt sy'n byw ynddi wedi symud i mewn o rywlearall, o byllau, llynnoedd ac afonydd gan gynnwys afonydd Dyfrdwy (drwy gamlas Llangollen), Tanat a Hafren o le deillia'r dŵr sy'n ei chyflenwi. Mae llyriad-y-dŵr arnofiol i'w gael yn naturiol mewn llynnoedd ac ystumllynnoedd (troeon sydd wedi'u torri i ffwrdd) ac nid yw'n cystadlu'n dda â phlanhigion eraill am olau a maethynnau, felly mae'n ffafrio mannau lle mae planhigion eraill yn ei chael yn anodd tyfu fel ardaloedd cysgodol neu sydd wedi'u haflonyddu arnynt.

Gallwch weld llyriad-y- dŵr arnofiol drwy gydol y flwyddyn yn tyfu ar wely'r gamlas. Yn ystod y gwanwyn a'r haf, bydd ei goesynnau'n tyfu drwy'r dŵr, gyda phlanhigion newydd ar ben rhai ohonynt a rhai eraill gyda dail maint ewin a blodau bach gwynion tri phetal. Mae llyriad-y-dŵr arnofiol yn cael ei warchod o dan y gyfraith ac mae angen trwydded i wneud unrhyw waith a all aflonyddu arno.

Cyfarwyddiadau

Mae'r arosfa nesa ychydig yr ochr draw i'r bont.

Saif y 9 arwydd cyfeirbwyntio sydd ar ôl ar hyd y llwybr tynnu rhwng fan hyn a Brithdir. Ni roddir cyfarwyddiadau pellach ar y tudalennau a ganlyn.

Beth gallwch ei weld?

Lawrlwythwch ein harweiniad hwylus i'ch helpu i adnabod llawer o'r planhigion dŵr eraill sy'n bresennol ar y gamlas.

Last Edited: 17 July 2015

photo of a location on the canals
newsletter logo

Stay connected

Sign up to our monthly newsletter and be the first to hear about campaigns, upcoming events and fundraising inspiration