Pwy a ŵyr - efallai y gwelwch chi gip ar ddyfri o gwmpas y gamlas. Rydych chi’n siŵr o weld eu holion beth bynnag.
Daw’r dyfrgi o’r un teulu â’r wenci, minc a’r mochyn daear, ac ef yw’r aelod mwyaf ohonynt. Mae’n nofiwr cyflym a medrus, ac yn gallu treulio sawl munud o dan y dŵr. Mae’n bwyta ’slywod, brogaod ac adar y glannau.
Go brin y gwelwch chi’r dyfrgi yng ngolau dydd, gan mai creadur y nos yw’n bennaf. Mae’n treulio’r dydd mewn gwâl ynghudd yng nghanol llystyfiant trwchus ar lan y dŵr. Mae ein dyfrgwn ni’n byw yn yr afon Hafren fwy na thebyg ac yn ymweld â’r gamlas i fwydo.
Allwch chi weld llawer o smotiau duon dan bont y gamlas? Baw dyfrgwn ydyn nhw, sy’n gymysgedd o esgyrn a chen pysgod. Yn groes i’r disgwyl, mae’n arogli’n ddigon melys a mwsgaidd yn hytrach na physgodlyd.
Mae dyfrgwn yn gadael eu baw o dan bontydd a thwneli fel nad yw’n cael ei olchi i ffwrdd. Maen nhw’n ei ddefnyddio i rwystro dyfrgwn eraill rhag mentro i’w tiriogaeth.
Ar ôl diflannu o sawl sir, mae dyfrgwn yn dechrau adennill tir ledled Cymru a Lloegr. Mae’n anghyfreithlon eu niweidio neu amharu arnynt.
Gwrandewch yn astud – mae dyfrgwn bach yn gwneud sŵn trydar fel adar!
Dyma ddiwedd ein taith, ond mae croeso i chi gerdded ymhellach. Mae lle picnic a Lociau Belan rhyw 1km o’ch blaen. Gallwch gerdded i bentref prydferth Aberriw ac ymhellach i ganol bwrlwm y Drenewydd wedyn.
’Wnaethoch chi fwynhau Llwybr Camlas Maldwyn? Cofiwch e-bostio eich sylwadau atom (Alex to confirm what you want with regard to feedback – and where/how people contact you – this could also be a link to e.g. Survey Monkey with an online questionnaire).
Last date edited: 17 July 2015