Skip to main content

Canal & River Trust in Wales

Arosfa 1: Bywyd gwyllt yn y dref

Daw’r gamlas â bywyd gwyllt i ganol y Trallwng. Cadwch eich llygaid ar agor am las y dorlan yn ei siaced lachar, llygoden y dŵr bach del, neu olion y dyfrgi swil

Otter sat on log in water among reeds

View this page in English

Dyma grynodeb o hanes y gamlas cyn i chi gychwyn ar eich milltir natur.

Llanw a thrai

Adeiladwyd Camlas Maldwyn rhwng 1796 a 1819. Roedd yn llwybr masnach hollbwysig, gyda cheffylau'n tynnu cychod a gludai nwyddau fel coed a chalch.

O dipyn i beth, tawelodd pethau ar Gamlas Maldwyn wrth i'r rhwydweithiau ffyrdd a threnau wella. Rhoddwyd y gorau i ddefnyddio'r gamlas yn gyfan gwbl pan orlifodd ei glannau ym 1936.

Bywyd gwyllt yn bennaf

Wrth i nifer y cychod edwino, cynyddodd bywyd gwyllt ar y gamlas. Dyma un o safleoedd bywyd gwyllt gorau'r DU bellach, ac mae'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ac Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA).

Gofalu am y gamlas

Ar ôl ei hadfer, mae mwy a mwy o bobl yn defnyddio'r gamlas yn eu hamser hamdden. Yr her i Glandŵr Cymru yw sicrhau'r cydbwysedd cywir, fel bod bywyd gwyllt yn gallu ffynnu ochr yn ochr â phobl.

Ble nesaf?

Ewch i lawr y grisiau a throwch i'r chwith ar y llwybr tynnu. Roedd y tÅ· ar y chwith yn felin ddŵr ar un adeg, wedi'i phweru gan nant Lledan. Mae'r arosfa nesaf lai na 50 metr ar hyd y llwybr tynnu, ger yr hysbysfwrdd gwyn.

Clywch!

Os byddwch chi'n clywed y sŵn hwn, edrychwch o gwmpas am fflach glas y dorlan.

Last Edited: 17 July 2015

photo of a location on the canals
newsletter logo

Stay connected

Sign up to our monthly newsletter and be the first to hear about campaigns, upcoming events and fundraising inspiration