Camlas Mynwy ac Aberhonddu
Camlas ddiarffordd Mynwy ac Aberhonddu, sy’n troelli drwy gefn gwlad Cymru, yw’r atyniad mwyaf poblogaidd ym Mharc Cenedlaethol godidog Bannau Brycheiniog.
Dyma un o'n dyfrffyrdd harddaf a mwyaf heddychlon sy'n dilyn llinell Dyffryn Wysg â'i hardaloedd coediog braf. Perl heb ei hail. Mae'n bosibl mordwyo ar hyd 35 milltir o'r gamlas, o Aberhonddu i Fasn Llanfihangel Pont-y-moel.
Mae ei lleoliad yn golygu ei bod yn hafan i fywyd gwyllt, gan ddenu pobl sydd wrth eu bodd â byd natur, cerddwyr a beicwyr. Mae'r rhan ogleddol yn rhan o Lwybr Cerdded Pellter Hir Taith Taf, llwybr 55 milltir y gellir ei gerdded neu'i feicio sy'n dechrau ym Masn Aberhonddu ac yn gorffen yng Nghaerdydd
Teithiau a llwybrau cerdded y gamlas
Gallwch fwynhau nifer o weithgareddau ar y gamlas hardd hon, ymlacio ar daith gwch, ymweld â safleoedd treftadaeth, gweld odynau calch a hen weithiau o'n treftadaeth ddiwydiannol ar hyd y gamlas, a chadw llygad am fywyd gwyllt – gan gynnwys y boncath, y barcud coch, y crëyr glas a gwas y neidr.
Dewch i fwynhau diwrnod gyda'r teulu yn un o safleoedd gwych y gamlas - Basn Aberhonddu, lociau Llangynidr neu Lanfa Goetre, gyda'i hodynau calch hanesyddol, neu galwch am damaid i fwyta yn Llanfihangel Pont-y-moel neu yn un o'r tafarnau neu gaffis niferus ar hyd y gamlas.
Lawrlwythwch eich canllaw am ddim i Fasn Aberhonddu
Lawrlwythwch eich canllaw am ddim i Lanfa Goetre
Hanes Camlas Mynwy ac Aberhonddu
Dechreuodd Camlas Mynwy ac Aberhonddu fel dwy gamlas wahanol: Camlas Brycheiniog a'r Fenni, a Chamlas Mynwy. Mae'r rhan 35 milltir y gellir teithio arni heddiw yn cynnwys rhannau o Gamlas Brycheiniog yn bennaf. Yn y 1790au, fe dderbyniodd Cwmni Camlas Mynwy ei Ddeddf Seneddol ar yr un pryd ag yr oedd Camlas Brycheiniog a'r Fenni yn cael ei chynllunio. Yn dilyn trafodaethau, penderfynwyd cysylltu'r ddwy yn Llanfihangel Pont-y-moel.
Agorwyd Camlas Mynwy, yn cynnwys cangen o Falpas i Grymlyn, ym 1799 gyda Chamlas Brycheiniog a'r Fenni yn ymestyn o Aberhonddu i Gilwern ym 1800, ac yn cyrraedd Llanfihangel Pont-y-moel erbyn 1812.
Roedd y ddwy gamlas yn cael eu hategu gan dramffyrdd a ddefnyddiwyd yn bennaf i ddod â glo, calchfaen a mwyn haearn o'r bryniau. Roedd y gamlas yn rhan bwysig o'n treftadaeth ddiwydiannol ac yn cysylltu tramffyrdd Hill â gwaith haearn Blaenafon a'r gefeiliau yng Ngarnddyrys.
Er eu bod wedi'u creu'n wreiddiol i gludo glo, calchfaen a chynhyrchion amaethyddol, roedd meistri haearn a diwydianwyr yn gwneud defnydd helaeth o'r gamlas a dyma oedd eu prif rwydwaith cludo, gan ddod â'r mwyn haearn crai i fyny'r gamlas o Gasnewydd i Lanfa Llan-ffwyst, yna ar dramffyrdd i'r gwaith haearn gan ddychwelyd gyda'r tramiau'n llawn haearn, sef y cynnyrch gorffenedig. Gellir gweld olion y dreftadaeth hon ar hyd y gamlas hyd heddiw, gan gynnwys glanfeydd ac odynau calch.
Cafodd ardal Blaenafon a rhan o'r gamlas statws Treftadaeth y Byd yn 2000 i gydnabod eu harwyddocâd hanesyddol.
Yn 1880, cafodd Camlas Mynwy ac Aberhonddu ei meddiannu gan Reilffordd Great Western. O fewn 35 mlynedd, roedd cludo masnachol wedi dod i ben mwy neu lai.
Adfer
Gydol yr 20fed ganrif cafodd rhai rhannau o Gamlas Mynwy a Braich Crymlyn eu llenwi er mwyn adeiladu ffyrdd. Roedd y llwybr drwy Gwmbrân bron wedi'i ddileu yn llwyr, ac felly roedd hi'n amhosibl teithio ymhellach i'r gogledd. Mae'n deg dweud bod y rhan hardd hon o'n rhwydwaith camlesi bron wedi diflannu'n llwyr. Ond wedi ymgyrchu dyfal gan gefnogwyr y gamlas, gwawriodd cyfnod newydd yn ei hanes ac ym 1968 dechreuwyd ar y gwaith adfer go iawn rhwng Aberhonddu a Llanfihangel Pont-y-moel.
Mae datblygiadau mwy diweddar yn cynnwys adfer terfyn y gamlas yn Aberhonddu, a gwaith amrywiol er mwyn gallu teithio rhwng Llanfihangel Pont-y-moel a Chasnewydd.
Adferwyd rhan o Gangen Crymlin, ac mae Canolfan Camlas Fourteen Locks ar agor yn rheolaidd i'r cyhoedd.
Camlas Mynwy ac Aberhonddu heddiw
Mae'r gamlas hon yn dawel ac yn wledig ar y cyfan ac yn lle gwych i bobl sydd wrth eu bodd â byd natur. Mae tarren Llangatwg wedi'i dynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), ac yn fynedfa i rwydwaith o ogofâu eang.
Mae'r gamlas yn llifo drwy Safle Treftadaeth y Byd, sy'n cynnwys tirnodau diwydiannol fel Amgueddfa Lofaol Big Pit. Mae Cefn Flight, sy'n rhan o'r Fourteen Locks, hefyd wedi'i gydnabod fel safle o arwyddocâd rhyngwladol, ac mae ar restr Cadw o Henebion Rhestredig.[18]
Gan nad oes modd cael mynediad i Gamlas Mynwy ac Aberhonddu o ddyfrffordd arall ar hyn o bryd, mae'r rhan fwyaf o bobl yn teithio arni mewn cychod wedi'u llogi. Mae gan nifer o gwmnïau gychod ar y gamlas.
Stay connected
Sign up to our monthly newsletter and be the first to hear about campaigns, upcoming events and fundraising inspiration