
Pen-blwydd Camlas Aberhonddu yn 225 oed
Mae Camlas Aberhonddu 225 yn ddathliad blwyddyn o hyd o weithgareddau a digwyddiadau mewn partneriaeth â sefydliadau partner a chymunedau glan y gamlas i ddathlu pen-blwydd Camlas Aberhonddu yn 225 oed.
Dechreuodd Camlas Mynwy ac Aberhonddu (Monmouthshire & Brecon Canal), a elwir yn annwyl yn ‘Mon & Brec’, fel dwy gamlas ar wahân – Camlas Mynwy a Chamlas Aberhonddu a’r Fenni.
Er i'r ddwy gamlas gael eu huno yn 1812 ym Mhont-y-moel, mae ein pen-blwydd yn 225 oed yn dathlu cwblhau Camlas Aberhonddu gogleddol 12 mlynedd ynghynt pan gyrhaeddodd y cargo cyntaf o lo Fasn Aberhonddu ar Noswyl Nadolig 1800.
Cychwynnodd Camlas Aberhonddu ger Gilwern yn 1796. Erbyn 1797, roedd wedi cyrraedd Llangynidr ac roedd y loc cyntaf wedi'i adeiladu. Erbyn 1799, roedd pedwar loc arall a'r twnnel 375 llath, sef Twnnel Ashford, wedi’u cwblhau a chyrhaeddodd y gamlas Dal-y-bont. Agorwyd dyfrbont garreg a phedwar bwa Thomas Dadford dros afon Wysg ym Mrynich yn 1800, ac erbyn diwedd y flwyddyn cyhoeddwyd bod Camlas Aberhonddu a'r Fenni ar agor o Gilwern i Aberhonddu.
Sut byddwn ni'n dathlu 225 mlynedd?
I ddathlu 225 mlynedd o Gamlas Aberhonddu gyda'n partneriaid, byddwn yn cynnal llawer o ddigwyddiadau a phrosiectau gyda'r gymuned leol i nodi 225 mlynedd ers sefydlu'r gamlas.
Ymhlith rhai o’r digwyddiadau fydd:
- Y Gamlas Ddoe a Heddiw
- Prosiectau ysgolion cynradd ac uwchradd lleol
- Gweithdai Ysgolion ar Ddiogelwch Dŵr
- Digwyddiad Picnic y Gamlas – gwelliannau i safleoedd picnic y gamlas
- Arddangosfa Ddehongliadol ar Daith i gymunedau ar lan y gamlas
- Ailosod Arwyddion Pont Treftadaeth
- Digwyddiad Goleuo'r Gamlas

Stay connected
Sign up to our newsletter and discover how we protect canals and help nature thrive