Llygod y dŵr, teloriaid, breision y cyrs a chwilod - mae’r cyrs ar lan y dŵr yn hafan ddiogel i’r rhan fwyaf o greaduriaid y gamlas.
Sylwch ar y ffensys pren isel yn y gamlas a grëwyd fel hafan ddiogel i fywyd gwyllt. Bydd y gwarchodfeydd natur bach hyn yn bwysicach wrth i fwy a mwy o gychod ddefnyddio’r gamlas.
Mae llygod y dŵr wedi dirywio’n sylweddol yn y DU, yn bennaf oherwydd gostyngiad yn nifer y nentydd heb eu llygru. Mae eraill yn marw wrth i’r minc eu hela. Mae llygod y dŵr yn byw ar ochr bellaf y gamlas hon.
Mae llu o adar yn byw ac yn nythu yng nghanol y cyrs, gan gynnwys yr iâr ddŵr, coetiar, telor yr hesg a bras y cyrs. Adar go swil yw’r rhan fwyaf, felly gwrandewch ar eu cân. Mae’r bras y cyrs, ar y llaw arall, yn trydar yn swnllyd wrth sefyll yn dalog ar frig y dail.
Os byddwch yn ddigon lwcus, efallai y gwelwch chi las y dorlan yn plymio i’r dŵr am bysgodyn bychan. Neu hwyrach y gwelwch chi fflach o las llachar a’i glywed yn galw ‘bib bib’.
Yn yr haf, cewch wledd i’r llygaid wrth i weision y neidr a’r mursennod llai hofran o’ch blaen – mae 13 rhywogaeth yn bridio yn y gamlas. Maen nhw’n dechrau’u hoes fel nymffod yng nghanol y cyrs (mwy am yr hen bethau bach yna eto!).
Ymhlith y creaduriaid eraill sy’n llechu yng ngwely’r cyrs mae’r falwen ddŵr, misglen dŵr croyw, chwilen ddŵr a physgod ifanc.
Mae telor y cyrs yn bloeddio canu ar frig y cyrs.
Allwch chi glywed sŵn ‘plop’ uchel? Efallai mai llygoden y dŵr sydd yno.
Mae’r arosfa nesaf ger bocs mawr du ar y llwybr tynnu.
Last date edited: 17 July 2015