Skip to main content

Canal & River Trust in Wales

Arosfa 14: Gwylio’r Glannau

Mae diogelu’r glannau’n darparu cynhaliaeth adeileddol i’r gamlas, gan ei hamddiffyn rhag erydiad ac atal gollyngiadau.

View this page in English

Ar adeg adeiladu'r gamlas, roedd deunyddiau a dulliau traddodiadol yn cael eu defnyddio fel pyst pren a gwaith maen. Wrth adfer y gamlas er mwyn i gychod gael teithio hyd-ddi, roedd deunyddiau hygyrch a thechnegau modern megis llenni dur yn lle pyst pren yn cael eu ffafrio. Ar ei ben ei hun, nid yw'r ymyl caled hwn o fawr o werth i fywyd gwyllt gan ei fod yn creu rhwystr ffisegol rhwng cynefinoedd y dŵr a'r tir ac yn atal ymyl llystyfiant rhag datblygu.

Glannau Iach

Yn aml, parheir i ddefnyddio llenni dur ar hyd y llwybr tynnu i ddarparu strwythur cadarn ac amddiffyn y glannau rhag gollyngiadau ac erydiad gan y rhai sy'n defnyddio'r llwybr tynnu a chychod. Yma yn y wlad, cloddiau pridd a geir yn bennaf yr ochr draw i'r llwybr sy'n hybu ymyl llystyfiant naturiol ac amrywiol. At ei gilydd, ar yr ardal sy'n pontio rhwng cynefin y dŵr a'r tir y mae'r gwerth o ran bioamrywiaeth. Yn cael eu cytrefu o'r gwlyptiroedd oddi amgylch ers adeiladu'r dyfrffyrdd, mae'r ymylon cul hyn yn amlygu cryn dipyn o fioamrywiaeth. Mae gweision neidr a mursennod sydd â chyfnodau dyfrol a thirol yn eu bywydau, amffibiaid ac ymlusgiaid, adar dŵr yn ogystal â llygod pengrwn y dŵr, sydd angen cloddiau meddal i dwrio iddyn nhw a chyrs a brwyn am fwyd a lloches, i gyd yn dibynnu ar adnoddau'r cynefin hanfodol hwn.

Achub y Glannau

Fodd bynnag, mae'r glannau naturiol hyn mewn perygl o gael eu herydu, yn enwedig drwy ddefnydd tir amaeth cyfagos. Gall pori stoc fod yn fuddiol wrth atal prysgwydd rhag ennill tir, cynnal porfa amrywiol a chreu pyllau bas. Eto i gyd, mae pori'r glannau'n uniongyrchol yn arwain at botsio, erydu'r glannau, sathru llystyfiant a chynnydd mewn gwaddodiad a chyfoethogi maethynnau yn y dŵr. Menter arall dan nawdd prosiect Ucheldir Hafren oedd cyflwyno mesurau i helpu i amddiffyn y glannau hyn drwy ffensio er mwyn cadw da byw draw ac felly hybu llystyfiant i sefydlogi'r pridd yn naturiol a'u clustogi rhag effeithiau ffynonellau llygredd.

Biobeirianneg

Wrth i werth bioamrywiaeth y camlesi gael eu cydnabod yn ehangach, mae technegau ‘biobeirianneg' amgen wedi'u hybu gan ffafrio atebion ‘gwyrdd' sy'n fwy cydnaws ac sy'n cynnig cydbwysedd rhwng anghenion cadwraeth, hamdden a pheirianyddol.

Cadwch lygad am nicospan ar hyd glan y gamlas yr ochr draw. Geotecstil gweuedig ysgafn a hyblyg yw hwn sydd fel arfer yn cael ei adlenwi gyda phridd neu garthion o waelod y gamlas i greu'r proffil angenrheidiol ac i helpu i sefydlogi glannau sydd wedi'u herydu. Mae dŵr yn gallu hydreiddio'r deunydd hwn gan adael i lystyfiant dyfu drwyddo ac i gyrs ymsefydlu ar hyd yr ymylon y tu cefn iddo sy'n helpu i greu cynefin ar y glannau sy'n ymsefydlogi'n naturiol.

Ateb arall sy'n fwy cynaliadwy ac ystyriol o'r amgylchedd yw rholion rhisgl coconyt sy'n seiliedig ar egwyddorion nodweddion sefydlogi naturiol llystyfiant. Mae'r rholion yn cael eu gwneud o ffibr rhisgl coconyt bioddiraddiadwy sy'n darparu sefydlogrwydd strwythurol cychwynnol i'r glannau a llwyfan i helpu llystyfiant naturiol i ymsefydlu. Wrth i'r llystyfiant aeddfedu, mae'n gwreiddio yn y glannau gan greu ffurf gynaliadwy ar reoli erydiad ac ar gynnal y glannau wrth ddarparu cryn dipyn o fioamrywiaeth ddiddorol a helpu i wella ansawdd y dŵr.

Last Edited: 17 July 2015

photo of a location on the canals
newsletter logo

Stay connected

Sign up to our monthly newsletter and be the first to hear about campaigns, upcoming events and fundraising inspiration