Cam wrth gam - taith 3.5km o Fasn Aberhonddu, Camlas Mynwy ac Aberhonddu

Mae’r llwybr unffordd hwn o Fasn Aberhonddu i Ddyfrbont Brynich yn 3.5km neu 2.2 milltir o hyd.

Cyfres o gamau byrion â llefydd o ddiddordeb i gael hoe fach yw’r daith Cam wrth Gam hon. Mae digonedd i’w weld heb orfod cerdded o un pen i’r llall. Beth am ddechrau gyda thaith fer a dychwelyd rhywbryd eto i grwydro ymhellach?

Mae’r llwybr tynnu yn addas at bob tywydd. Gwyliwch ein ffilm isod am flas o’r daith ar lannau Camlas Mynwy ac Aberhonddu.

Cychwyn: Basn Aberhonddu, LD3 7EY

Gorffen: Dyfrbont Brynich, ger LD3 7UY

Pellter: 3.5km neu 2.2m

Y llwybr

  1. Cychwyn ym Masn Aberhonddu sydd â chyfoeth o hanes, gyda’r theatr, Pont Dadford a’r Bont Gwaith Nwy (166) sydd dros 200 mlwydd oed.
    2.0.6km/0.4m fe welwch chi bont bwa dwbl unigryw Watton.  
    3. 0.9km/0.6m Safle Picnic, gyda Thramffordd y Gelli a’r odynau calch.
    4. 2.2km/1.4m Pont Brynich
    5. 3.2km/2m Loc Brynich, a adferwyd ym 1958 ac sy’n gweithio gystal ag yr oedd yn y 1800au.
    6. 3.5km/2.2m, pen y daith yn Nyfrbont Brynich, dyfrbont pedwar bwa Gradd II sy’n croesi Afon Gwy, a adeiladwyd ym 1800.