Rydym yn cydnabod bod y Gymraeg eisoes yn cael ei siarad yn helaeth yng Nghymru ac rydym yn rhannu dyhead ac uchelgais Llywodraeth Cymru o weld yr iaith yn ffynnu.
Rydym yn cefnogi’r egwyddor na ddylai’r Gymraeg gael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg yng Nghymru, ac y dylai pobl Cymru allu byw trwy gyfrwng y Gymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny.
“Mae Glandŵr Cymru - sef yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd yng Nghymru - wedi ymrwymo i’r Gymraeg ac yn cydnabod ei phwysigrwydd. Mae ein cenhadaeth, sef da yw bod wrth y dŵr, yn golygu ein bod am i’n dyfrffyrdd yng Nghymru fod yn hygyrch i bawb, yn berthnasol i bawb a bod pob un sy’n byw yn yr ardaloedd y maen nhw’n llifo trwyddyn nhw yn gallu eu profi, a’u bod hefyd ar gael i ymwelwyr yng Nghymru eu mwynhau”
Richard Parry, Prif Weithredwr
Mae’n Polisi Iaith Gymraeg yn disgrifio sut rydym yn gallu defnyddio’r egwyddorion hynny trwy’n gwasanaethau ni ar hyn o bryd.
Last date edited: 10 December 2020