Skip to main content

Canal & River Trust in Wales

Ein hymrwymiad i’r Gymraeg

Mae Glandŵr Cymru wedi ymrwymo i’r Gymraeg ac yn cydnabod ei phwysigrwydd ym mywydau bob dydd pobl.

Cwch yn croesi Dyfrbont Pontcysyllte

Rydym yn cefnogi'r egwyddor na ddylai'r Gymraeg gael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg yng Nghymru, ac y dylai pobl Cymru allu byw trwy gyfrwng y Gymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny.

“Mae “Glandŵr Cymru” yn cydnabod pa mor unigryw yw diwylliant Cymru a chyfraniad penodol yr iaith ato. Felly, rydym yn rhannu'r uchelgais genedlaethol i weld ei defnydd yn mynd o nerth i nerth.

Rydym am i'n dyfrffyrdd yng Nghymru fod yn hygyrch i bawb, yn berthnasol i bawb a bod pob un sy'n byw yn yr ardaloedd y maen nhw'n llifo trwyddyn nhw yn gallu eu profi, a'u bod hefyd ar gael i ymwelwyr yng Nghymru eu mwynhau.”

Richard Parry, Prif Weithredwr

Bathodyn Dwi'n Dysgu Cymraeg logo

Pan fydd angen i chi gysylltu â ni;

  • Cysylltwch â ni yn Gymraeg (neu Saesneg), ar y ffôn, llythyr, e-bost neu ar y cyfryngau cymdeithasol. Gan barchu'ch dewis, byddwn yn ymateb yn eich iaith ddewisol.
  • Siaradwch Gymraeg gyda staff a gwirfoddolwyr sy'n gwisgo neu'n arddangos bathodyn Iaith Gymraeg.
  • Disgwyliwch i ni ddarparu gwybodaeth a chyngor pwysig am ein dyfrffyrdd yn ddwyieithog.
  • Awgrymwch sut y gallwn hyrwyddo ymhellach y defnydd o'r Gymraeg yn ein gwaith.

O'n rhan ni byddwn yn:

  • Hyrwyddo ein gwaith yng Nghymru gan ddefnyddio'r enw Glandŵr Cymru
  • Cyhoeddi gwybodaeth a chyngor cyhoeddus yn ddwyieithog.
  • Datblygu a hyrwyddo mentrau, ymgyrchoedd a digwyddiadau yn ddwyieithog.
  • Annog a chefnogi ein staff a gwirfoddolwyr i ddefnyddio a gwella eu medrau Cymraeg.
  • Wrth recriwtio staff, byddwn yn annog y rhai sydd â sgiliau Cymraeg.

Er ein bod yn ymrwymedig i weithredu fel hyn, byddwn wastad yn gwrando ar adborth sy'n ein helpu i wella.

Mae croeso i chi gysylltu os oes gennych chi unrhyw ymholiadau neu awgrymiadau am ein defnydd o'r Gymraeg.

Cysylltwch â ni drwy e-bostio [email protected] neu ffoniwch ni ar 0303 040 4040.

Last Edited: 12 September 2023

photo of a location on the canals
newsletter logo

Stay connected

Sign up to our monthly newsletter and be the first to hear about campaigns, upcoming events and fundraising inspiration