Hafan ddiogel
Gallai mwy o gychod ar y gamlas gael effaith andwyol ar fywyd gwyllt. Felly, aethpwyd ati i greu gwarchodfeydd natur bychain fel rhan o'r prosiect adfer. Crëwyd Gwarchodfa Natur Whitehouse pan gafodd y gamlas ei hail-lwybro ym 1995, ac mae'n hafan i rywogaethau di-ri erbyn hyn.
Pelydrau'r dŵr
Yn yr haf, mae lilïau'r dŵr melyn yn rhoi lliw i'r gamlas. Mae'r planhigion hyn yn tyfu o gloron mawr ar wely'r gamlas. Mae eu dail yn debyg i siâp bresych, ac mae rhai'n arnofio ar wyneb y dŵr.
Ieir dŵr a chwtieir
Er bod yr adar duon hyn yn ymddangos yn debyg ar yr olwg gyntaf, mae gan y gwtiar streipen wen ar ei phen tra bod gan yr iâr ddŵr streipen goch. Maen nhw'n gymeriadau go wahanol hefyd. Mae'r iâr ddŵr yn swil tra bo'r gwtiar yn fwy uchel eu cloch ac yn tasgu dŵr i bobman wrth ymladd ag adar eraill.
Am olygfa!
Ar un ochr o'r gamlas, fe welwch chi olygfa fendigedig o fryniau'r Breidden a Chastell Powys yr ochr arall. Byddai coed derw o barc y Castell yn cael eu torri a'u cludo ar hyd y gamlas ers talwm.
Coridorau gwyrdd
Mae'r cloddiau a'r glannau ar hyd y llwybr tynnu, heb eu trin â chemegau, yn gynefin i bob math o bryfed ac adar. Fe welwch loÿnnod byw o bob lliw a llun yma yn yr haf, fel gweirlöyn y perthi, yr iâr wen wythiennog a'r glöyn trilliw.
Clywch
Mae'r iâr ddŵr a'r gwtiar yn gwneud sŵn cras eithaf tebyg. Gwrandewch ar y gwahaniaeth.
Ble nesaf?
Dilynwch y llwybr sy'n dychwelyd drwy ochr arall y warchodfa natur. Yr arosfa nesaf yw Pont Whitehouse.