Cadwyn fwyd bysgodlyd
Y sildynnod a'r crethyll yw rhai o bysgod lleiaf gwledydd Prydain, felly maen nhw'n ysglyfaeth i bysgod mwy fel y penhwyad a'r draenogyn. Mae'r penhwyad arswydus yn bachu adar dŵr, llygod mawr a brogaod hefyd.
Mae pysgod eraill y gamlas yn cynnwys y carp cyffredin, sgreten, rhufell, rhuddbysgodyn, a'r 'slywen. Maen nhw'n fwyd pwysig i rai o bysgotwyr pennaf natur - y crëyr glas, glas y dorlan a'r dyfrgi.
Pysgota hamdden
Mae pysgota'n hobi poblogaidd ar y gamlas. Mae pysgotwyr yn dal a dychwelyd pysgod i'r dŵr, felly nid yw'n effeithio ar y stoc.
Ail-lwybro'r gamlas
Adeiladwyd Pont Whitehouse fel rhan o brosiect adfer sy'n caniatáu i gychod fynd o dan y ffordd. Cafodd yr hen bont ei dymchwel pan gaewyd y gamlas.
Ar ôl penderfynu mai dyma'r lle gorau i godi pont newydd, cafodd y gamlas ei hail-lwybro. Gadawyd yr hen lwybr dŵr yn hafan wyllt i fyd natur.
Clywch
Sŵn cras uchel sydd gan y crëyr glas. Efallai y byddwch yn clywed ei adenydd mawr yn curo yn yr awel wrth basio.
Ble nesaf?
Ewch yn syth ymlaen ar y llwybr tynnu, i'r chwith o'r arwydd croeso, yn hytrach nag i'r dde. Mae'r arosfa nesaf ger y giât.