Y da a'r drwg
Mae gweision y neidr a mursennod ymhlith ein pryfed prydferthaf – ond mae eu nymffau (y rhai bach) yn beryg bywyd.
Mae nymff yn byw yn y mwd am ddwy i bum mlynedd. Mae'n heliwr didostur, yn dal ysglyfaeth fel penbyliaid a physgod bach trwy eu trywanu gyda'r bachyn ar ei wefus isaf.
Bydd y nymff yn gadael y dŵr maes o law trwy gropian i fyny coesyn corsen, cyn troi'n bryfyn llawn dwf sy'n hedfan. Ond ychydig wythnosau'n unig fydd ei fywyd allan o'r dŵr.
Bachu broga
Yn aml, gwelir nadroedd y gwair yn nofio yng nghanol y chwyn â'u bryd ar fachu brogaod.
Pwll diogel
Ar yr ochr chwith, fe welwch chi bwll bach a grëwyd i dderbyn dŵr sy'n gorlifo o'r gamlas. Mae gweddillion y gatiau cored yno o hyd.
Mae'r pwll yn gynefin go debyg i ymylon y gamlas, ond heb y pysgod ysglyfaethus. Felly, mae'n hafan i frogaod, llyffantod a madfallod dŵr. Sylwch ar grifft llyffant a phenbyliaid yn y gwanwyn.
Clywch
Ble nesaf?
Mae'ch arosfa nesaf gyferbyn â'r ‘mainc siâp pysgodyn' ar y mynegbost tri bar lle mae'r gamlas yn fforchio.