Hafan ddiogel
Sylwch ar y ffensys pren isel yn y gamlas a grëwyd fel hafan ddiogel i fywyd gwyllt. Bydd y gwarchodfeydd natur bach hyn yn bwysicach wrth i fwy a mwy o gychod ddefnyddio'r gamlas.
Achub llygoden y dŵr
Mae llygod y dŵr wedi dirywio'n sylweddol yn y DU, yn bennaf oherwydd gostyngiad yn nifer y nentydd heb eu llygru. Mae eraill yn marw wrth i'r minc eu hela. Mae llygod y dŵr yn byw ar ochr bellaf y gamlas hon.
Gwneud eu nyth
Mae llu o adar yn byw ac yn nythu yng nghanol y cyrs, gan gynnwys yr iâr ddŵr, coetiar, telor yr hesg a bras y cyrs. Adar go swil yw'r rhan fwyaf, felly gwrandewch ar eu cân. Mae'r bras y cyrs, ar y llaw arall, yn trydar yn swnllyd wrth sefyll yn dalog ar frig y dail.
Pysgotwr o fri
Os byddwch yn ddigon lwcus, efallai y gwelwch chi las y dorlan yn plymio i'r dŵr am bysgodyn bychan. Neu hwyrach y gwelwch chi fflach o las llachar a'i glywed yn galw ‘bib bib'.
Sioe hedfan
Yn yr haf, cewch wledd i'r llygaid wrth i weision y neidr a'r mursennod llai hofran o'ch blaen – mae 13 rhywogaeth yn bridio yn y gamlas. Maen nhw'n dechrau'u hoes fel nymffod yng nghanol y cyrs (mwy am yr hen bethau bach yna eto!).
Pysgod ac ymlusgiaid y dŵr
Ymhlith y creaduriaid eraill sy'n llechu yng ngwely'r cyrs mae'r falwen ddŵr, misglen dŵr croyw, chwilen ddŵr a physgod ifanc.
Clywch
Mae telor y cyrs yn bloeddio canu ar frig y cyrs.
Allwch chi glywed sŵn ‘plop' uchel? Efallai mai llygoden y dŵr sydd yno.
Ble nesaf?
Mae'r arosfa nesaf ger bocs mawr du ar y llwybr tynnu.