Chwyn gwaetha'r byd?
Gallwch weld clymog Japan yn y perthi ger y gamlas. Mae'r planhigyn hwn, sy'n tyfu'n hynod o gyflym, wedi'i restru ymhlith chwyn gwaetha'r byd. Mae'n meddiannu ein gwrychoedd ac yn mygu ein planhigion cynhenid. Does dim diben ei dorri – mae hynny'n ei annog i dyfu – felly rhaid defnyddio cemegion i'w reoli.
Goresgynwyr pwll yr ardd
Mae planhigion pwll egsotig o wledydd eraill yn tyfu'n gyflym dros ben, gan fygu'r planhigion cynhenid. Rhaid sicrhau nad ydynt yn difa ein planhigion prin sydd wedi'u diogelu.
Mewnfudwyr milain
Gall anifeiliaid anfrodorol achosi problemau hefyd. Mae Minc Gogledd America yn bwyta adar y dŵr a mamaliaid bach. Dyma pam fod llygod y dŵr yn fwy prin yn y DU erbyn hyn.
Mae'r cimwch afon arwyddol, ymwelydd arall o America, yn peryglu'r cimwch afon crafanc wen, un o greaduriaid brodorol ein dyfroedd.
Gwyliadwriaeth gyson
Mae'n hollbwysig bod ein staff yn cadw llygad barcud ar y gamlas a'i bywyd gwyllt fel nad yw'r rhywogaethau anfrodorol yn ennill tir.
ClywchNid yw adar brodorol fel telor yr hesg yn poeni pa blanhigyn y byddant yn clwydo arno.
Ble nesaf?
Mae'r arosfa nesaf ger arwyddnod lefel isel. Chwiliwch amdano'n ofalus!