Chwysu chwartiau
Erbyn y 1960au, roedd Camlas Maldwyn yn farwaidd ac wedi mynd i'r gwellt. Ond dechreuodd pobl leol godi stŵr pan gyflwynwyd cynnig i adeiladu ffordd ar y gamlas.
Daeth trigolion y Trallwng ynghyd i glirio'r gamlas ym 1969, dan drefniant cymdeithas camlas y Shropshire Union a'r Inland Waterways Association.
Llwyddodd y gwirfoddolwyr i glirio darn 1.5 milltir o'r gamlas, gan gychwyn yma yn Loc y Dref. Mae'r gwaith adfer yn parhau ers hynny.
Llifddorau anghyffredin
Arferai hen felin flawd sefyll yn Loc y Dref – darllenwch fwy o'r hanes ar y paneli. Mae'r loc presennol yn anarferol o fyr, cafodd y trawstiau mantoli metel eu gosod yma pan adferwyd y gamlas yn y 1970au.
Dacw alarch …
Mae Camlas Maldwyn yn gynefin i 20% o'r elyrch mud sy'n bridio yma yng Nghymru. Ond er gwaetha'r enw, nid mud mohonynt. Maen nhw'n hisian a sgyrnygu wrth hel elyrch neu adar eraill i ffwrdd.
Mae hwyaid o bob lliw a llun yma, diolch i'r ffaith fod hwyaid gwyllt yn paru â rhai dof.
Clywch
Er gwaetha'u gosgeiddigrwydd, mae'r elyrch yn gallu gwneud sŵn digon aflafar!
Ble nesaf?
Croeswch yn ôl i'r llwybr tynnu a pharhau ar eich taith. Mae'r arosfa nesaf ger y giât sy'n arwain i'r lle chwarae.