Cadw Camlesi yn Fyw
Cadw Camlesi yn Fyw
Galw ar Lywodraeth y DU i weithredu i sicrhau dyfodol ein camlesi.
Mae ein rhwydwaith camlesi poblogaidd, sy'n darparu cymaint o fudd i bobl ac i natur, yn dibynnu ar gyllid o sawl ffynhonnell: grant gan y llywodraeth yw un ohonynt.
Ym mis Gorffennaf 2023 cyhoeddodd Llywodraeth y DU setliad ariannu newydd, sy'n ymestyn o 2027 i 2037, i ddilyn ein cytundeb grant cyfredol. Er ein bod ni'n croesawu'r ymrwymiad hirdymor pellach hwn i ddyfrffyrdd hanesyddol y genedl, mae'r swm a ddyfarnwyd yn ostyngiad sylweddol mewn cyllid - dros £300 miliwn mewn termau real dros gyfnod o ddeng mlynedd. Gostyngiad a fydd yn arwain at ganlyniadau dinistriol ar ein camlesi ac i'r bobl a'r bywyd gwyllt sy'n dibynnu arnyn nhw.
Mae'n anochel y bydd y fath ostyngiad ariannol yn arwain at ddirywiad yng nghyflwr cyffredinol ein rhwydwaith dyfrffyrdd, ac, yn frawychus, y posibilrwydd o gau camlesi. Mae'n peryglu cynefinoedd naturiol amhrisiadwy, seilwaith hanesyddol a mannau cyhoeddus sydd mor annwyl i ni.
Dyna pam rydyn ni'n estyn allan atoch chi, ein cymuned frwdfrydig ac angerddol, i ymuno â'n cenhadaeth #CadwCamlesiynFyw.
Gwrandewch ar ein prif weithredwr, Richard Parry
Gweithredwch drwy e-bostio eich Aelod Seneddol
Dywedwch wrth eich AS lleol gymaint rydych chi'n malio am gamlesi a pham mae angen eu hariannu'n iawn. Anogwch Lywodraeth y DU i ailystyried eu penderfyniad a diogelu ein dyfrffyrdd i'r dyfodol.
Beth nesaf?
Rwy'n siŵr y byddwch yn rhannu ein siom ynghylch penderfyniad Llywodraeth y DU. Rydyn ni'n benderfynol o frwydro i'w newid, i ailddatgan yr achos dros yr arian sydd ei angen i gadw camlesi yn fyw a chynnal yr amrywiaeth eang o fuddion maen nhw'n eu darparu. Gyda'ch help chi, a'r holl ddefnyddwyr eraill, partneriaid, perchnogion cychod, gwirfoddolwyr, Cyfeillion a chefnogwyr, byddwn yn parhau â'n hymgyrch dros y misoedd nesaf ac yn bachu ar bob cyfle i gynhyrchu cyllid o ffynonellau eraill, a chyflawni ein gwaith yn effeithlon. Gyda'n gilydd gallwn gadw camlesi yn fyw ac yn ffyniannus i'r dyfodol.
Yn y cyfamser byddwn yn parhau i godi llais ac ymladd dros ein rhwydwaith.
- Byddwn yn targedu'r cyfryngau er mwyn codi proffil camlesi a'u pwysigrwydd i bawb
- Byddwn yn cwrdd ag Aelodau Seneddol o bob plaid wleidyddol i ddylanwadu ar faniffestos polisi a siapio maniffestos
- Byddwn yn codi ymwybyddiaeth o'r mater gyda phawb sy'n byw, yn gweithio ac yn treulio amser ar ein rhwydwaith dyfrffyrdd er mwyn denu cefnogaeth
- Byddwn yn dal ati i gasglu a chyflwyno tystiolaeth sy'n dangos pa mor werthfawr yw camlesi i bobl, bywyd gwyllt a'r economi
- Byddwn yn parhau i godi arian hanfodol er mwyn sicrhau y gallwn ddal ati i gadw ein camlesi ar agor i bawb eu mwynhau
Gallwch ddangos eich cefnogaeth trwy ysgrifennu at eich Aelod Seneddol i fynnu gweithredu dros gamlesi, ein helpu i ledaenu'r gair, neu drwy gefnogi ein gwaith gyda rhodd ariannol.
Last Edited: 27 June 2024
Stay connected
Sign up to our monthly newsletter and be the first to hear about campaigns, upcoming events and fundraising inspiration