Skip to main content

Canal & River Trust in Wales

Bwrdd Glandŵr Cymru

Mae Bwrdd Glandŵr Cymru yn helpu i ddatblygu gwaith yr Ymddiriedolaeth trwy gymryd rhan ym mywyd cymdeithasol, economaidd, gwleidyddol a diwylliannol Cymru.

Mae'r Bwrdd yn cyflwyno gwybodaeth am Gymru, ei diwylliant, ei phobl a'i hanghenion gerbron yr Ymddiriedolaeth. Mae'n gweithio ar lefel wleidyddol/llywodraeth a chyda chyrff eraill yng Nghymru er mwyn dylanwadu ar strategaethau a pholisïau Cymreig sy'n ymwneud â'r dyfrffyrdd. Hefyd, mae'n cynghori'r Ymddiriedolaeth ar bolisïau a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, ac yn gyfrwng cymorth a thrafod syniadau i'r ymddiriedolwyr, swyddogion gweithredol a'r uwch-reolwyr ar faterion yn ymwneud â Chymru.

Mae gan y Bwrdd hyd at ddeg aelod sydd â phrofiad o weithio gyda sefydliadau partner cyfredol ac yn cynnwys pobl â chysylltiadau ehangach yng Nghymru gan gynnwys rhai o'r sectorau cyhoeddus, elusennol a phreifat.

Ymhlith eu prif feysydd arbenigedd mae iechyd a lles; twristiaeth a datblygu cynulleidfaoedd; y dreftadaeth naturiol, adeiledig a chymdeithasol; byd y celfyddydau; sgiliau, addysg a chyflogaeth; adfywio a datblygu economaidd a chyllid.

Aelodau

Phil Hughes

Mae Phil, sy'n wreiddiol o'r Gogledd ac sydd bellach yn byw ger Casnewydd, yn gyn-reolwr Canolfan Camlesi Fourteen Locks yn Nhŷ Du, Casnewydd. Fe'i penodwyd yn gyfarwyddwr Twristiaeth Dinas Cyfalaf a oedd yn rhan o Visit Wales, oherwydd ei brofiad ym maes twristiaeth Cymru, ac yn y gorffennol bu'n gadeirydd a chyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Camlesi Mynwy, Aberhonddu a'r Fenni. Mae Phil wrth ei fodd â chamlesi, ac erbyn hyn mae wedi ymddeol ac yn daid llawn amser. Mae'n berchennog, yn gyhoeddwr ac yn olygydd y Monmouthshire and Brecon Canal Guide hefyd ac mae'n cydweithio'n aml â chwmnïau cynhyrchu rhaglenni teledu ar Gamlas Mynwy ac Aberhonddu. Arferai fod yn aelod o Bartneriaeth Dyfrffyrdd De Cymru a'r Hafren yr Ymddiriedolaeth ac yn ddiweddarach yn aelod o Fwrdd Cynghori Rhanbarthol y De.

Gareth Jones

Gareth yw Cyfarwyddwr Cynllunio a Lle Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae’n weithiwr proffesiynol ym maes adfywio a chynllunydd tref siartredig gyda dros 20 mlynedd o brofiad o uwch-reoli yn y sector cyhoeddus yng Nghymru a Lloegr. Datblygodd ei angerdd am gamlesi trwy ei waith yn arwain prosiectau adfer ar Gamlesi Mynwy ac Aberhonddu a Maldwyn. Mae gan Gareth hanes o sicrhau cyllid grant mawr, cyflawni gwelliannau i seilwaith a gweithio mewn partneriaeth. Mae rôl bresennol Gareth yn cynnwys goruchwylio treftadaeth adeiledig, twristiaeth a rheoli ymwelwyr, a datblygu cynaliadwy yn y Parc Cenedlaethol.

Owen Davies

Mae gan Owen, Cynllunydd Tref Siartredig a Chymrawd y Sefydliad Rheoli Lleoedd, dri degawd o brofiad mewn rolau arweinyddiaeth a thechnegol i awdurdodau cyhoeddus ac ymgynghoriaethau rhyngwladol. Mae ei arbenigedd yn cwmpasu polisiau, cynllunio, creu lleoedd ac adfywio strategol, yn enwedig mewn lleoliadau camlas ac ar y glannau. Fel cynghorydd dibynadwy, mae wedi cyfrannu at fentrau lles ac adfywio Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ac fel Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru. Mae Owen yn gwasanaethu fel Arbenigwr ar Dasglu'r Stryd Fawr Llywodraeth y DU ac mae wedi bod yn rhan o grŵp Gorchwyl  Gweinidogol Cymru ar Ganol Trefi. Mae'n rheoli Gwagle, gofod cydweithio annibynnol, ac yn gwirfoddoli fel Cadeirydd Ymddiriedolaeth Plas Gunter, gan oruchwylio adferiad tŷ tref o'r 17eg ganrif. Mae cysylltiad Owen â Chamlas Mynwy ac Aberhonddu yn un personol - mae’n cerdded a beicio ar hyd y gamlas hon gyda ffrindiau a theulu yn aml, ar ôl treulio ei blentyndod yn byw gerllaw ac yn ennill ei arian poced yn gweithio ar gychod yng Nglanfa Llan-ffwyst.

Justine Wheatley

Mae Justine yn ymgynghorydd llawrydd ar gyfer sefydliadau celfyddydau, treftadaeth ac amgylchedd sy'n cefnogi gwerthuso, datblygu strategol a chodi arian. Hi yw Cadeirydd sefydlol WAHWN, Rhwydwaith Celfyddydau, Iechyd a Llesiant Cymru, ac mae'n cyflwyno rhaglenni hyfforddi ar gyfer sefydliadau sy'n ceisio cefnogi llesiant staff. Fel Cyfarwyddwr y sefydliad celfyddydau Cymreig, Peak Cymru o 2003-2023, cyflwynodd amrywiaeth o raglenni celfyddydau, iechyd ac amgylchedd gan gynnwys prosiectau partneriaeth â Glandŵr Cymru ar Gamlas Sir Fynwy a Brycheiniog. Mae Justine yn Gyfrifydd Siartredig wedi ymddeol, a fu gynt gyda Deloitte, ac yn aelod o grŵp Cymuned Elusennol ICAEW. Mae hi wedi byw yn y Fenni gyda'i theulu ers 35 mlynedd.

Chris Morgan

Mae Chris yn drydanwr wedi ymddeol ac ar hyn o bryd yn Aelod Cabinet dros Wastraff a Mannau Gwyrdd ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, lle mae ganddo gyfrifoldeb hefyd am y rhan sy'n eiddo i'r Cyngor o gangen Crymlyn o Gamlas Sir Fynwy a Brycheiniog.

Gyda'i deulu, mae wedi bod yn berchen ar sawl cwch o'r enw Bogwoppit ar gamlas Sir Fynwy a Brycheiniog rhwng 1993 a 2011, ond ceisiodd brofi'r brif system a symudodd Bogwoppit i Orllewin Canolbarth Lloegr yn 2011.

Fel cyn-gadeirydd a gwirfoddolwr gydag Ymddiriedolaeth Camlesi Sir Fynwy a Brycheiniog, cafodd lawer o brofiad o weithio gydag awdurdodau lleol ac asiantaethau ariannu gyda'r cynlluniau ar gyfer adferiad llawn a arweiniodd ef i fyd gwleidyddiaeth yn y pen draw.

Mae hefyd yn wirfoddolwr ac yn arweinydd i'r Grŵp Adfer Dyfrffyrdd lle mae'n helpu i drefnu Glanhau Mordwyo Camlas Birmingham bob Gwanwyn.

Mae'n edrych ymlaen at weithio gyda bwrdd Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd Cymru yn yr amseroedd heriol iawn hyn, rhaid dod o hyd i ffordd ymlaen sy'n gwarchod ac yn fuddiol i'n holl ddyfrffyrdd a'u cymunedau.

Last Edited: 16 May 2025

photo of a location on the canals
newsletter logo

Stay connected

Sign up to our newsletter and discover how we protect canals and help nature thrive