Skip to main content

Canal & River Trust in Wales

Arosfa 6: Gerllaw y dyfroedd tawel

O dawelwch dan y dŵr i anhrefn- mae angen rheoli’r gamlas yn ofalus er diogelwch i bawb.

Black and white photo of horse pulling boat with man holding harness

View this page in English

Coedwig danddwr

Craffwch dan yr wyneb, ac fe welwch chi bob math o lystyfiant yn siglo dan y dŵr. Sicrhau bod y planhigion hyn yn goroesi yw cyfran helaeth o'n gwaith ni.

Planhigion o safon byd-eang

Mae bywyd gwyllt y gamlas yn bwysig o safbwynt Ewropeaidd. Ond mae'n bwysig yn fyd-eang hefyd oherwydd dau blanhigyn arbennig. Mae gan y llyriad nofiadwy goesynnau main â dail bach sy'n codi i'r brig – fel yr awgryma'r enw. Mae ganddo flodau gwyn â thair petal.

Mae gan ddyfrllys cywasg ddail tenau tebyg i strapiau. Mae ei flodau'n debyg i gonau bach browngoch sy'n sbecian dros wyneb y dŵr.

Ceidwad uwchdechnoleg

Mae'r bocs du ar y llwybr tynnu yn cynnwys dyfais electronig sy'n anfon adroddiadau am lefel y dŵr at beirianwyr yr Ymddiriedolaeth. Os yw dŵr y gamlas yn gollwng, mae'r bocs yn tynnu'n sylw ar unwaith er mwyn ei drwsio.

Os oes cwymp dramatig yn lefel y dŵr, mae hynny'n awgrymu bod rhan o'r glannau wedi torri. Mae'n ein sbarduno i weithredu ar frys, oherwydd peryglon llifogydd difrifol.

Y camleswr oedd yn gyfrifol am fonitro lefel y dŵr yn y gorffennol.

Gorlifo'r glannau

Ar ôl i'r glannau dorri ym 1936, penderfynodd y perchnogion nad oedd hi'n werth adfer na thrwsio'r gamlas, ac fe'i gadawyd yn segur.

Clywch

Mae'r dryw i'w glywed ym mhobman ar hyd y gamlas. Mae'n aderyn bach ond swnllyd iawn!

Ble nesaf?

Yr arosfa nesaf yw'r fainc (ychydig cyn y pwll i'r chwith o'r llwybr tynnu).

Last Edited: 17 July 2015

photo of a location on the canals
newsletter logo

Stay connected

Sign up to our monthly newsletter and be the first to hear about campaigns, upcoming events and fundraising inspiration