Enterprise in Wales

Our canals in Wales are undergoing a renaissance as forms of sustainable transport - although these days that means walking and cycling rather than freight - as engines of growth, as a resource for recreation and tourism and for their contribution to health and well-being,

The way in which our waterways can deliver the objectives of the Welsh Government and a wide range of public and voluntary sector partners has led to unprecedented investment in the waterways of Wales. 

At the same time we seek to play our part in civic life and we contribute to a number of Ministerial advisory groups. These include the Heritage Environment Group and National Access Forum. We also sponsor the Assembly Cross Party Group on Waterways and aim to showcase what has been achieved in Wales, elsewhere in the UK and across Europe at every opportunity. 

Changing Perceptions

In the nineteenth century our waterways were the means by which the natural resources of Wales could be used to make Wales the World's first industrial nation. Today their stunning and often iconic structures and easy access for recreation, tourism and healthy exercise are the means by which people's perceptions of towns and cities can once again be changed. As a result inward investment is encouraged, local communities take a new pride in their town or village and their cultural heritage and new businesses ideas are stimulated.

Recent achievements

Our work to date has included:

  • Towpath improvements to create safe routes for communities to walk or cycle on all four of our canals - 96 per cent of a canal's use is on the land not the water and use typically doubles after resurfacing.
  • Encouraging new uses - we have installed soft edges for canoeists on all of our canals, established canoe trails and, in partnership with Canoe Wales, a flat water centre at Burgedin on the Montgomery Canal .
  • Improved visitor access across the Pontcysylle Aqueduct and Canal World Heritage Site and, with Visit Wales' and Wrexham CBC support, extended the existing visitor centre  to keep people in the area longer - and spending more.
  • Helping communities celebrate the Monmouthshire & Brecon Canal bicentenary including recognition of the superb local foods and beers sold along the canal.
  • Habitat improvements on the Montgomery Canal to protect the rare aquatic plants.         

This is all in addition to our routine maintenance of the built and natural heritage of the canals that employs local contractors and suppliers year in year out as exemplified by a recent open day at Llangynidr. 

 

Menter yng Nghymru

Mae ein camlesi yng Nghymru’n cael ail fywyd fel cyfrwng trafnidiaeth gynaliadwy – er bod hyn yn golygu cerdded a beicio yn hytrach na chario llwythi ebyn hyn – fel cyfryngau twf, fel adnodd hamdden a thwristiaeth ac yn sgil eu cyfraniad at iechyd a lles.

Mae’r ffordd mae ein dyfrffyrdd yn gallu cyflawni amcanion Llywodraeth Cymru ac ystod eang o bartneriaid o’r sectorau cyhoeddus a gwirfoddol wedi arwain at fuddsoddiad nas gwelwyd ei debyg yn nyfrffyrdd Cymru.

Ar yr un pryd, rydym yn ceisio cyfrannu at fywyd dinesig ac rydym yn cyfrannu at nifer o Grwpiau Cynghori Gweinidogion. Mae’r rhain yn cynnwys y Grŵp Amgylchedd Treftadaeth a’r Fforwm Mynediad Cenedlaethol. Rydym hefyd yn noddi Grŵp Trawsbleidiol y Cynulliad ar Ddyfrffyrdd ac yn bachu ar bob cyfle i ddangos yr hyn sydd wedi’i gyflawni yng Nghymru, yn y DU a ledled Ewrop.

Newid Agwedd

Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd ein dyfrffyrdd yn rhoi modd i ni ddefnyddio adnoddau naturiol y wlad i sicrhau mai Cymru fyddai’r wlad ddiwydiannol gyntaf yn y byd. Heddiw, gall y strwythurau ysblennydd ac eiconig hyn sy’n cynnig mynediad hawdd i gyfleoedd hamdden, twristiaeth ac ymarfer corff helpu i newid agwedd pobl o drefi a dinasoedd unwaith eto. O ganlyniad, anogir mewnfuddsoddiad, mae cymunedau lleol yn ymfalchïo yn eu tref neu bentref ac mae eu treftadaeth ddiwylliannol a syniadau busnes newydd yn cael eu hysgogi.

Cyflawniadau diweddar

Mae ein gwaith hyd yma wedi cynnwys:

  • Gwella llwybrau tynnu fel y gall cymunedau gerdded neu feicio’n ddiogel ar bob un o’n pedair camlas – mae 96 y cant o ddefnydd camlas ar y tir yn hytrach na’r dŵr, ac mae’r defnydd fel arfer yn dyblu ar ôl gosod wyneb newydd.
  • Annog defnyddiau newydd – rydym wedi gosod ymylon meddal ar gyfer canŵwyr ar bob un o’n camlesi, rydym wedi sefydlu llwybrau canŵio ac, mewn partneriaeth â Canw Cymru, wedi creu canolfan dŵr gwastad yn Burgedin ar Gamlas Maldwyn.
  • Gwella mynediad ymwelwyr i Safle Treftadaeth y Byd Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte a, chyda chymorth Croeso Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, ehangu’r ganolfan ymwelwyr bresennol i gadw pobl yn yr ardal am gyfnod hirach a’u hannog i wario mwy.
  • Helpu cymunedau i ddathlu daucanmlwyddiant Camlas Mynwy ac Aberhonddu, gan gynnwys cydnabod y bwydydd a’r cwrw lleol gwych sy’n cael eu gwerthu ar hyd y gamlas.
  • Gwella cynefinoedd ar Gamlas Maldwyn er mwyn diogelu’r planhigion dyfrol prin.        

Mae hyn i gyd yn ychwanegol at ein gwaith rheolaidd o gynnal a chadw treftadaeth adeiledig a naturiol y camlesi sy’n cyflogi contractwyr a chyflenwyr lleol o un flwyddyn i’r llall, fel y gwelwyd yn ein diwrnod agored diweddar yn Llangynidr.