Cymraeg

O olygfeydd ysblennydd Camlas Mynwy ac Aberhonddu i ysblander Traphont Ddŵr Pontcysyllte ar Gamlas Llangollen, mae camlesi ac afonydd Cymru’n tywys ymwelwyr ar daith fythgofiadwy trwy dreftadaeth ddiwydiannol, ddiwylliannol a naturiol unigryw Cymru.

Monmouthshire & Brecon Canal
Monmouthshire & Brecon Canal

View this page in English

Ar wefan Glandŵr Cymru, cewch bob math o wybodaeth am gamlesi Cymru a sut rydym yn eu diogelu a’u gwella er lles cenedlaethau’r dyfodol. O wybodaeth hamdden am gamlesi ac atyniadau Cymru i wybodaeth am waith ein tîm menter a manylion sut rydym yn gweithio gyda phartneriaid, mae’r wefan hon yn darparu’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi am waith Glandŵr Cymru.

Hamdden

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu mwy am gamlesi Cymru ac atyniadau a busnesau cysylltiedig, bydd y tudalennau canlynol yn eich rhoi ar ben ffordd:

 

Ein gwaith yng Nghymru

Mae tîm menter Glandŵr Cymru’n cyfrannu at lawer o’r gwaith sy’n cael ei wneud ar gamlesi ac afonydd Cymru. Bydd y tudalennau canlynol yn rhoi syniad i chi o’r hyn rydym yn ei wneud yng Nghymru:

 

I gael rhagor o wybodaeth am ein gwaith yng Nghymru, ewch i hysbysfwrdd y Bartneriaeth Cymru Gyfan.