Highlighting the value of the Welsh canals
As some of the most accessible and well-used facilities for recreation and tourism in the country they are well suited to the delivery of public benefits and services including conservation of the natural, built and social heritage, opportunities for tourism, recreation and healthy living and, of course walking, cycling and paddling.
Canals as eco systems
Our canals in Wales deliver between £10.6 million to £18.8 million in public benefits each year through the ecosystems services they deliver. That's a return of almost 10 times on the net cost of maintaining the network.
Public benefits
The services delivered are as diverse as:
- Carbon savings: From, for example, renewable energy in the form of small hydro schemes, people walking and cycling in place of using their cars or the transfer of water using gravity.
- Recreation and tourism: The canals generate visitor spend of £34m every year which supports around 800 jobs in local businesses and suppliers.
- Health and well-being: As people take advantage of the flat level paths close to their homes to access the countryside or escape the stresses and strains of modern life.
Partnership
The Canal and River Trust in Wales, wherever possible, uses local suppliers and contractors to maintain its canal system supporting local businesses and jobs. In addition it works with a range of partners including the riparian local authorities and a range of public and third sector bodies to make the canals more accessible for local people and visitors alike. Recent projects include 'safe routes for communities', new facilities for tourism and canoeing and improvements to habitats and the natural environment.
Canals offer problem free delivery and excellent returns. As our canals are in single ownership and we have OJEU approved framework contractors in place we are very well placed to deliver in short timescales.
Pwysleisio gwerth camlesi Cymru
Fel rhai o’r cyfleusterau hamdden a thwristiaeth mwyaf hygyrch a phoblogaidd yn y wlad, mae ein camlesi’n ddelfrydol i ddarparu gwasanaethau a buddiannau i’r cyhoedd, gan gynnwys gwarchod y dreftadaeth naturiol, adeiledig a chymdeithasol, cyfleoedd twristiaeth, hamdden a byw’n iach ac, wrth gwrs, cerdded, beicio a phadlo.
Camlesi fel ecosystemau
Mae ein camlesi yng Nghymru’n darparu rhwng £10.6 miliwn a £18.8 miliwn o fudd i’r cyhoedd bob blwyddyn trwy’r gwasanaethau ecosystemau a ddarparant. Mae hyn yn golygu enillion o bron i 10 gwaith yn fwy na’r gost net o gynnal y rhwydwaith.
Buddiannau i’r cyhoedd
Mae’r gwasanaethau a ddarperir yn amrywiol, gan gynnwys:
- Arbedion carbon: Er enghraifft, o ynni adnewyddadwy ar ffurf cynlluniau ynni dŵr bach, pobl yn cerdded a beicio yn lle defnyddio car neu drosglwyddo dŵr trwy ddefnyddio disgyrchiant.
- Hamdden a thwristiaeth: Mae’n camlesi’n denu ymwelwyr sy’n gwario £34 miliwn y flwyddyn ac mae hyn yn cefnogi tua 800 o swyddi mewn busnesau a chyda chyflenwyr lleol.
- Iechyd a lles: Pobl yn manteisio ar y llwybrau gwastad yn ymyl eu cartrefi i gael mynediad i gefn gwlad neu ddianc o ruthr a straen bywyd bob dydd.
Partneriaeth
Pan fo hynny’n bosibl, mae Glandŵr Cymru’n defnyddio cyflenwyr a chontractwyr lleol i gynnal ei system gamlesi, gan gefnogi busnesau a swyddi lleol. Mae hefyd yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid, gan gynnwys awdurdodau lleol y glannau ac ystod o gyrff o’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector, i sicrhau bod y camlesi’n fwy hygyrch i bobl leol ac ymwelwyr. Mae prosiectau diweddar yn cynnwys 'llwybrau diogel i gymunedau', cyfleusterau newydd ar gyfer twristiaeth a chanŵio a gwella cynefinoedd a’r amgylchedd naturiol.
Mae camlesi’n cynnig darpariaeth didrafferth a manteision gwych. Gan fod ein camlesi o dan berchnogaeth sengl a’n bod yn defnyddio contractwyr fframwaith a gymeradwyir gan Gyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd (OJEU), rydym mewn sefyllfa ddelfrydol i gyflawni gwaith o fewn amserlenni tynn.

